Mae’r ffaith bod angen gwario mwy o arian ar hyfforddiant i athrawon Cymraeg yn “amlwg i bawb”, meddai cadeirydd newydd corff sy’n edrych ar sut i ehangu addysg Gymraeg.

Nod Bwrdd Cynghori Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yw adolygu deddfwriaeth sy’n ei wneud yn ofynnol i gynghorau sir baratoi cynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth o addysg Gymraeg.

Mae’r corff yn cynnwys pobol o feysydd gwahanol ym maes addysg, yn ogystal â chynllunwyr ieithyddol, ac mae yn rhan o waith Llywodraeth Cymru o gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Dylan Foster Evans, sy’n olynu Aled Roberts yn gadeirydd ar Fwrdd CSGA, fe fydd yn parhau â’r gwaith o ystyried pa newidiadau sydd eu hangen “ar gyfer gwella sut mae’r rhain [y cynlluniau] yn gweithio yn y dyfodol”.

Mae’r Cadeirydd newydd yn cytuno gyda’r ddadl bod angen gwario mwy ar hyfforddi athrawon i fedru dysgu’r Gymraeg i blant, wrth i Lywodraeth Cymru geisio cynyddu nifer y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

“Dydy’r grŵp yma ddim yn gyfrifol am hyfforddiant athrawon ac ati, ond mae hynny’n rhan o’r pictiwr ehangach,” meddai Dylan Foster Evans wrth golwg360.

“Bydd angen [gwario mwy o arian] i ddarparu ar gyfer y lleoedd newydd sy’n rhan o gynllun pob cyngor sir.

“Mae’n rhaid cael trafodaeth synhwyrol wrth edrych ar y cynlluniau yma, sef cynlluniau i gynyddu nifer y disgyblion, i gynyddu nifer yr ysgolion mewn rhai ardaloedd hefyd, ac wedyn o ran yr athrawon sydd ar gael i wneud hynny a’r cyrff sy’n gyfrifol am athrawon, mae’n rhaid cynyddu hynny i gyd hefyd.”

Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae’r Gymraeg yn ganolog i’n cwricwlwm newydd a byddwn yn gwario dros £6 miliwn y flwyddyn nesaf i gyflwyno hyfforddiant drwy’r Gymraeg i athrawon a staff cymorth. Rydyn ni hefyd yn estyn ein cynllun cymhelliant hyfforddi athrawon a fydd yn darparu hyd at £25,000 i athrawon a fydd yn mynd yn eu blaen i addysgu drwy’r Gymraeg.”