Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol tros ogledd Cymru yn erbyn rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio mewn etholiadau.

Daw sylwadau Mark Isherwood yn dilyn galwadau gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru i roi’r hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau lleol.

Yn ôl Mark Isherwood – sy’n Weinidog Cysgodol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol – mae atal carcharorion rhag bwrw pleidlais yn rhan o’u cosb.

“Mewn arolwg YouGov yn 2017, dim ond naw y cant o bobol yng Nghymru ddywedodd y dylai pob carcharor gael caniatâd i bleidleisio,” meddai Mark Isherwood.

Mae atal carcharorion rhag cael pleidlais, meddai,  yn adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw’r person hwnnw yn addas i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.

“Cadw hawliau dynol”

Mae Plaid Cymru o blaid rhoi’r bleidlais i garcharorion “er mwyn cadw hawliau dynol ac egwyddorion democratiaeth,” meddai Leanne Wood.

“Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi methu â chydymffurfio â’i gyfrifoldebau o ran hawliau dynol yn y maes hwn ac mae cyfle i Gymru wneud pethau’n wahanol,” meddai.

Yn ôl llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru, maen nhw’n “cefnogi’r egwyddor o ryddfreinio carcharorion Cymru ac yn ystyried opsiynau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol”.

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad yn ymchwilio i hawliau pleidleisio carcharorion.