Wrth i Aled Roberts gamu o’i rôl yn gadeirydd ar gorff sy’n gyfrifol am ehangu addysg Gymraeg, mae’r Llywodraeth wedi penodi ei olynydd.

Daw ei ymddiswyddiad yn gadeirydd ar Fwrdd Cynghori Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yn sgil ei benodiad yn Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae disgwyl iddo olynu’r Comisiynydd presennol, Meri Huws, ar Ebrill 1, ac mae wedi’i benodi am gyfnod o saith mlynedd.

Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn cymryd ei le yn gadeirydd ar Fwrdd CSGA.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i Aled am ei waith yn arwain ar gam dau’r adolygiad CSGA ac am sefydlu Bwrdd annibynnol i roi cyngor ar newidiadau i’r ddeddfwriaeth sy’n sail i gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, yn unol â Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Rwy’n dymuno’n dda iddo yn ei rôl newydd fel Comisiynydd y Gymraeg.”