Mae cyn-Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi ei ethol yn gynghorydd sir – er mwyn brwydro yn erbyn cynghorwyr o’i blaid ef ei hun.

Y Ceidwadwyr sy’n rheoli Cyngor Sir Bro Morgannwg ac maen nhw eisiau cau Ysgol Gynradd Llancarfan.

Ond mae Andrew RT Davies, Aelod Cynulliad tros ranbarth Canol De Cymru, wedi dweud ei fod yn “chwyrn yn erbyn” y cynlluniau i gau’r ysgol.

Ac er mwyn brwydro tros gadw’r ysgol, mae Andrew RT Davies wedi ei ethol yn gynghorydd sir tros y Rhws.

Mae wedi addo cefnogi Cabinet Ceidwadol ar bopeth heblaw’r cynllun i gau Ysgol Gynradd Llancarfan, gan ddweud mae ysgolion gwledig yw “yr hyn sydd yn cynnal bywyd cefn gwlad”.

Nid yw yn bwriadu ildio ei sedd yn y Cynulliad.

Cefndir

Mae tros 1,000 o bobol yn gwrthwynebu’r cynllun i gau Ysgol Gynradd Llancarfan a symud y plant i ysgol newydd werth £4 miliwn yn y Rhws, ble mae stad o dai newydd yn cael ei chodi.

Ym mis Ionawr fe ymddiswyddodd Matthew Lloyd, cynghorydd Ceidwadol y Rhws ar y pryd, oherwydd ei fod yn gwrthwynebu cau’r ysgol.