Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi galw am fwy o eglurder ynghylch cyllid ar ôl Brexit.

Yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, ac Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay, mae angen mwy o eglurder gan Lywodraeth Prydain ynglŷn â chyllidebau’r dyfodol a phensiynau’r sector cyhoeddus ar ôl Mawrth 29.

Daw’r alwad wrth i’r ddau gwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, yng Nghaerdydd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 15).

“Ansicrwydd”

“Gyda’r cloc yn tician wrth inni nesáu at y diwrnod ymadael, mae’n hollol hanfodol sicrhau ein bod yn rhan ganolog o’r broses benderfynu a’n bod yn gallu paratoi ar gyfer effaith Brexit,” meddai Rebecca Evans.

“Byddaf yn pwyso hefyd am fwy o eglurder a sicrwydd ynglŷn â’r gost sy’n gysylltiedig â newidiadau Llywodraeth Prydain i bensiynau’r sector cyhoeddus, a sut mae’n bwriadu cyllido hynny.

“Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol at y Canghellor yr wythnos diwethaf i geisio eglurder. Mae’r awdurdodau lleol wrthi’n llunio’u cyllidebau terfynol ac mae’n destun pryder fod ansicrwydd o hyd ynglŷn â chyllid.”