Ar y diwrnod pan oedd ymgynghoriad am y cynllun i fod i ddod i ben, mae cynghorwyr a thrigolion lleol wedi mynegi pryder ynglŷn â chynlluniau i adeiladu hyd at 95 o dai newydd yn nhref Llanbedr Pont Steffan.

Mewn cyfarfod cyhoeddus yn y dref ar Chwefror 7, fe ddaeth dros 100 o bobol ynghyd i leisio eu barn ar fwriad i adeiladu’r tai ar gae rhwng Maes y Deri, Pen Bryn a Bryn Steffan.

Mae aelodau o Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan hefyd yn dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu’r datblygiad ar sail ei faint, gan godi pryderon ynghylch y straen fydd ar adnoddau a gwasanaethau’r dref.

Y datblygiad

Mae’r cais wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion gan gwmni Geraint John Planning Ltd ar ran tirfeddianwyr lleol, ac mae’n cynnwys “datblygiad preswyl o hyd at 95 o unedau a gwaith cysylltiedig gyda mynedfeydd strategol oddi ar Fryn Steffan a Maes y Deri.”

Y dyddiad cau gwreiddiol ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cais oedd Chwefror 14, ond mae bellach wedi cael ymestyn i ddiwedd y mis.

Yn ôl Ann Bowen Morgan, maer y dref, mae’r cais yn mynd yn groes i’r cynllun datblygu lleol, sy’n nodi bod hawl datblygu 83 o dai yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ac mae nifer o gynlluniau eraill eisoes ar y gweill.

“Mae llawer gormod o adeiladau i ddechrau arni,” meddai. “Bydd straen ar wasanaethau’r dref, fel y feddygfa a’r ysgol… ac mae traffig yn bryder mawr, o ran bod y ffyrdd sy’n bwydo i mewn [i’r datblygiad] yn rhy gul.

“Mae yna ddatblygiad yn Ffynnonbedr a datblygiad Brongest i lawr [ar waelod y dref], felly does dim wir angen am ddatblygiad arall.”