Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn Synod Inn dros y penwythnos.

Cafodd Wayne Dobson ei arestio ar ôl i blismon gael ei anafu ddydd Sadwrn (Chwefror 9) ar ôl stopio car yn yr ardal yn ne Ceredigion.

Mae’r gŵr o Sussex wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, difrod troseddol, difrod i gerbyd ynghyd â dau achos o ddwyn cerbyd.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw’n dal i chwilio am ail ddyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae lle i gredu ei fod bellach wedi gadael eu hardal.

Mae ymchwiliad yng Ngheredigion yn ystod y dyddiau diwethaf wedi cynnwys uned arfog yr heddlu, yr uned gŵn a hofrennydd.

“Mae hwn wedi, ac yn parhau i fod, yn ymchwiliad hir a dwys, sydd bellach yn cynnwys swyddogion o luoedd eraill wrth i ymdrechion ganolbwyntio ar leoliadau y tu hwnt i Ddyfed-Powys,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Peter Roderick.

“Rydym yn deall bod yna lefel uchel o bryderon yn ein cymunedau ers prynhawn dydd Sadwrn, ac fe hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd wrth i’r ymchwiliad gael ei gynnal ledled Ceredigion.”