Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio tanseilio Comisiynydd y Gymraeg “drwy’r drws cefn” gan ei “llwgrwobrwyo” i newid ei strwythurau a’i gwaith.

Daw’r cyhuddiad wrth i Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, gyhoeddi papur tystiolaeth sy’n cynnig bod y Comisiynydd yn sefydlu Bwrdd Llywodraethu – gan gyfuno’r gwaith o hybu a rheoleiddio’r Gymraeg o fewn un corff.

Byddai’r cam hwn, meddai, yn “hanfodol er mwyn paratoi’r corff ar gyfer cymryd cyfrifoldeb a bod yn atebol am weithredu rhaglenni o waith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.”

“Os wyf yn hyderus bod y Comisiynydd wedi cwrdd â’r amodau hyn dros y flwyddyn nesaf, byddaf yn barod i ystyried trosglwyddo nifer o gyfrifoldebau, ynghyd â’r adnoddau sydd ynghlwm wrthynt, o Lywodraeth Cymru i law’r Comisiynydd,” meddai Eluned Morgan.

Beirniadaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r cynnig hwn, gan dynnu sylw at y ffaith bod cynnig tebyg yn y Papur Gwyn ar Fil y Gymraeg – sydd bellach wedi’i ollwng – wedi derbyn cefnogaeth gan ddim ond 1.3% (naw allan o 504 ymatebydd) mewn ymgynghoriad.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y papur polisi diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn “drwch o fygythiadau a chymhellion i sicrhau bod y Comisiynydd yn ildio i ddymuniad y Llywodraeth i wanhau’r gyfundrefn reoleiddio ac felly hawliau pobol Cymru i’r Gymraeg.”

“Mae’n rhaid cofio bod y Comisiynydd yn rheoleiddio’r Llywodraeth, ac mae mynnu newid strwythur llywodraethiant y Comisiynydd er mwyn newid y pwyslais oddi ar y rheoleiddio hwnnw yn anghyfansoddiadol,” meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Nid lle’r Llywodraeth yw ceisio defnyddio cyllideb i newid strwythur corff rheoleiddio annibynnol na’i weithgareddau.

“Mater i’r ddeddfwrfa ydy’r strwythurau hynny.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.