Mae’r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â lladrad a fu yn archfarchnad Co-op yn Llanymddyfri yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, cafodd Mitsubishi L200 du ei ddwyn yn ardal Llanddeusant dros nos ar Chwefror 7 neu’n gynnar ar Chwefror 8.

Mae lle i gredu, medden nhw wedyn, fod y cerbyd wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad yn y Co-op, lle cafodd peiriant twll yn y wal ei ddwyn.

Dyw’r lladron ddim wedi cael eu dal hyd yn hyn, ac mae swyddogion yn apelio ar bobol leol i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth am y Mitsubishi L200.

Maen nhw hefyd yn annog ffermwyr a pherchnogion peiriannau trwm i gadw eu heiddo o dan glo ac i osgoi gadael yr allweddi ynddyn nhw.