Mae naw person – sydd rhwng 13 a 19 oed – wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gawson nhw eu galw i Heol y Ddinas yn ardal Y Rhath yn hwyr nos Iau (Chwefror 7), lle cafodd bachgen 17 oed ei drywanu.

Erbyn hyn, mae bachgen 17 oed yn y ddalfa wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, anhrefn treisgar a bod â chyllell yn ei feddiant.

Mae dyn 18 oed o Gaerdydd hefyd yn parhau yn y ddalfa, tra bo saith arall – sydd rhwng 13 a 19 oed – wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

“Rydym yn deall bod cymunedau ledled Caerdydd yn pryderu ynglŷn â’r digwyddiad, yn enwedig o ystyried oedran y rheiny a gafodd eu harestio,” meddai’r Ditectif Ringyll Lauren Wells.

“Rydym yn rhannu’r pryderon hyn ac wedi gweithio’n ddiflino ers nos Iau i wneud ymholiadau ac adnabod y rheiny oedd yn rhan o’r digwyddiad.”

Mae’r ymchwiliad yn parhau.