Mae mesur gan Lywodraeth Prydain sy’n bwriadu cyflwyno newidiadau i’r diwydiant pysgota yn “gyfle coll”, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru hawl i 1% o gyfanswm cwota pysgota gwledydd Prydain o dan y Concordat Pysgota, sy’n gytundeb rhwng Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru.

Bwriad Mesur Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig yw creu dull cyffredin o ran rheoli pysgodfeydd, gan baratoi ar gyfer yr adeg pan fydd gwledydd Prydain yn gadael Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

Ond yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, dyw’r mesur yn ei ffurf bresennol ddim yn mynd i’r afael â dosbarthiad “annheg” presennol y cwota, gan ychwanegu ei fod yn atal y diwydiant pysgota yng Nghymru rhag datblygu.

Maen nhw hefyd yn credu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i sicrhau gwelliannau ym maint cwota Cymru, ac yn galw arnyn nhw i gymryd rhagor o gamau cadarn ar y mater.

“Rydym yn dra siomedig bod Llywodraeth Prydain wedi penderfynu na fydd y mater hwn yn cael ei ddatrys wrth i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Mike Hedges, cadeirydd y pwyllgor.

“Oni bai y caiff y mater hwn ei ailystyried, prin fydd y manteision i bysgodfeydd Cymru sy’n codi o Brexit.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym wedi pwysleisi o’r dechrau’n deg y dylai Cymru dderbyn cyfran fwy teg o gyfleoedd pysgota ac rydym yn falch iawn fod y Pwyllgor yn cytuno â ni,” meddai llefarydd.

“Nid y Bil Pysgodfeydd yw’r dull ar gyfer sbarduno trafodaethau manwl rhwng gweinyddiaethau’r Deyrnas Unedig, na rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, ynghylch materion fel rhannu cwota.

“Rydym yn parhau i godi mater rhannu cwota â gweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig fel rhan o drafodaethau ar wahân.

“Byddwn yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Pwyllgor maes o law.”