Fe all Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil pryderon am y modd y mae wedi delio â chynlluniau i ddatblygu pentref llesiant gwerth £200m o fewn y sir.

Ym mis Ionawr eleni, fe bleidleisiodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin o blaid cymeradwyo cynlluniau i greu’r Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn Llanelli, a fydd yn cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd.

Fe wnaed hyn er gwaethaf pryderon am ddyfodol y datblygiad, wrth i Fargen Ddinesig Bae Abertawe – y cytundeb gwerth £1.3bn y mae’n rhan ohono – wynebu ymchwiliadau ac adolygiadau gan nifer o asiantaethau, gan gynnwys llywodraethau Cymru a Phrydain.

Ym mis Rhagfyr y llynedd hefyd, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Gaerfyrddin na fydd y cwmni datblygu, Sterling Health, bellach yn gyfrifol am ddatblygu’r pentref llesiant.

Yn ôl y Cynghorydd Rob James, mae gan fusnesau a thrigolion lleol “ofnau” bod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, yn gweithredu mewn modd sydd wedi “niweidio” enw da’r rhanbarth a’r fargen ei hun.

Honiadau Rob James

Mewn llythyr agored at y Cynghorydd Emlyn Dole ei hun, mae arweinydd yr wrthblaid yn nodi nifer o resymau tros gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder, gan gynnwys y ffaith bod:

  • Cynghorwyr meinciau cefn ddim wedi cael mynediad at wybodaeth sy’n ymwneud â’r fargen ddinesig;
  • Cynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd wedi’u hatal rhag mynychu cyfarfodydd sy’n ymwneud â’r pentref llesiant ac achos busnes yr Egin;
  • Cwmni cyfreithiol, sy’n cynnal adolygiad mewnol annibynnol i gynlluniau’r pentref llesiant, â chysylltiadau agos â’r Prif Weithredwr, Mark James, a’r fargen ddinesig ei hun;
  • Mark James yn rhan o gynllun i sefydlu ysbyty preifat ac ysgol feddygol yn Kuwait – sy’n gysylltiedig â’r fargen ddinesig – ond heb gael caniatâd gan y cyngor llawn.

“Haeddu gwell”

“Gallwn ni ddim aros yn segur wrth i chi roi’r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn, sef buddsoddiad £1.3bn yn y rhanbarth sydd â photensial o ddarparu swyddi a ffyniant i filoedd o drigolion lleol, mewn perygl,” meddai’r llythyr gan y Cynghorydd Rob James.

“Yn ystod y dyddiau nesaf felly, fe fydda i’n ceisio cynnig pleidlais o ddiffyg hyder ynoch fel Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.

“Mae pobol Sir Gaerfyrddin yn haeddu llawer gwell na hyn.”

Ymateb Emlyn Dole

“Mae’n rhyfedd fod Rob James, cynghorydd o Lanelli, â’r fath agwedd negatif a rhwystrol tuag at ddatblygiad a fydd yn dod â manteision sylweddol i’r dref ac i orllewin Cymru yn gyffredinol,” meddai.

“Mae hefyd yn eironig bod yr Aelod Cynulliad lleol, Lee Waters, sydd newydd gael ei benodi’n weinidog sydd â chyfrifoldeb tros y Fargen Ddinesig, yn llwyr gefnogol o’r datblygiad.

“Mae’n rhaid gofyn a ydy’r Cynghorydd James yn dilyn y farn annibynnol hon oherwydd ei gred gamsyniol y byddai’n datblygu ei yrfa wleidyddol?”