Mae’r chwilio’n parhau am ddyn wedi ymosodiad ar blismon yng Ngheredigion ddydd Sadwrn.
Mae dyn 29 oed o Sussex eisoes wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar swyddog yr heddlu a thri achos o ddwyn cerbyd. Mae’n cael ei holi yn y ddalfa.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Post-mawr a Synod Inn am tua 1.15 brynhawn dydd Sadwrn, wedi i blismon gael ei anafu ar ôl stopio car yn yr ardal.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty rhag ofn ac ar gyfer asesiadau meddygol.
Dyn arall
Y gred yw bod y dyn arall yn dal i fod yn yr ardal ac mae rhagor o heddlu wedi eu hanfon i ardal Aberteifi.
Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n chwilio am ddyn gwyn a allai fod yn gwisgo siorts a chrys-T gwyn gyda lliw llwyd ynghanol y crys.
Mae rhybudd i’r cyhoedd gloi eu cerbydau a’u hadeiladau yn y cyfamser a pheidio â gadael allweddi yn eu cerbydau.
“R’yn ni’n gofyn i bobol fod yn wyliadwrus, ond nid yn ofnus, gan ein bod ni’n credu bod y dyn hwn yn fwy o fygythiad i’r heddlu nag i’r cyhoedd ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran yr Heddlu Dyfed Powys.