Mae teulu peilot awyren y pêl-droediwr Emiliano Sala yn dweud na fyddan nhw fyth yn rhoi’r gorau i’r ymdrech i chwilio am ei gorff.

Mae £140,000 wedi ei gyfrannu mewn deuddydd i gronfa i dalu am chwilio am David Ibbotson a ddiflannodd ar 21 Ionawr wrth hedfan y chwaraewr i Gaerdydd, lle’r oedd newydd symud.

Mae’r cyfraniadau’n cynnwys £1,000 gan y cyflwynydd rhaglenni pêl-droed, Gary Lineker, a chwaraewr ifanc Ffrainc Kylian Mbappé.

Ar y rhaglen deledu Good Morning Britain, fe ddywedodd merch David Ibbotson, Danielle, y byddan nhw’n parhau i chwilio.

“Os oes gyda chi obaith, ddylech chi ddim ildio,” meddai. “Fyddai e ddim yn rhoi’r gorau i chwilio amdana’ i.”

Fe gafodd corff Emiliano Sala ei hun ei godi o’r awyren yr wythnos ddiwetha’ – fe ddaethpwyd o hyd iddi yn y môr ger Guernsey.