Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad yn nhref Port Talbot, wedi i ddynes oedrannus gael ei bwrw yn ei hwyneb yn ystod lladrad.
Cerddodd dyn at y ddynes, sydd yn ei 70au, wrth iddi gerdded i’w char ar Heol Forge am oddeutu 8.30 nos Wener, Ionawr 18.
Gafaelodd y dyn yn ei hwyneb a cheisio dwyn bag oddi arni, gan ddweud bod angen “ychydig o bunnoedd” arno.
Cafodd y ddynes ei bwrw yn ei hwyneb cyn i’r lleidr redeg i ffwrdd pan aeth car heibio a chanu’r corn.
Mae’r heddlu’n chwilio am y gyrrwr er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
Chwilio am y lleidr
Mae’r heddlu’n chwilio am y lleidr, sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn 5’10” o daldra ac o gorffolaeth denau.
Roedd arogl mwg cryf yn ei gylch e.
Roedd e’n cario bag ar ei gefn ac yn gwisgo menig a sgarff yn cuddio’i wyneb.