Mae cronfa sydd wedi cael ei sefydlu er mwyn chwilio am David Ibbotson, peilot Emiliano Sala, wedi codi dros £110,000 hyd yn hyn.

Mae gan ei deulu nod o £300,000 ar dudalen Go Fund Me, ac mae’r pêl-droediwr Ffrengig Kylian Mbappe wedi rhoi £27,000 at yr achos.

Mae corff Emiliano Sala, ymosodwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, eisoes wedi’i ddarganfod oddi ar ynysoedd y Sianel.

“Plis helpwch i ddod â David Ibbotson adref a rhoi’r ffarwel iddo y mae’n ei haeddu,” meddai neges ar y dudalen codi arian.

“Fel teulu, rydym yn dibynnu ar garedigrwydd pobol dda i’n helpu i godi’r arian y mae mawr ei angen er mwyn i ni ddod o hyd i’n tad, gŵr a mab annwyl.”

‘Amser trasig’

Daeth y chwilio swyddogol am David Ibbotson ac Emiliano Sala i ben rai dyddiau wedi iddyn nhw fynd ar goll.

Ond dechreuodd y chwilio am Emiliano Sala unwaith eto wedi iddyn nhw gyflogi criw preifat.

Dywed teulu David Ibbotson fod clywed fod y chwilio amdano wedi dod i ben “wedi gwneud yr amser trasig hwn yn fwy anodd”.