Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ledled gogledd, canolbarth a de-orllewin Cymru hyd at ganol y prynhawn.

Daw hyn wrth i Storm Erik chwythu ar draws gwledydd Prydain gan achosi hyrddiau o wynt hyd at 70 milltir yr awr mewn mannau.

Mae ffordd yr A548 wedi cau ger Mostyn yn Sir y Fflint oherwydd coeden yn disgyn, ac mae un o lonydd Pont Hafren hefyd wedi cau.

Mae cyfyngiadau cyflymder ar drenau yng ngogledd Lloegr oherwydd y gwynt ac mae rhybudd y gallai glaw trwm arwain at lifogydd yng ngogledd yr Alban.

“Mae gwyntoedd hyd at 70 milltir yr awr ar yr arfordir a 50 milltir yr awr i mewn yn y tir yn debygol am weddill y diwrnod,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.