Mae Delyth Jewell wedi cymryd ei sedd fel Aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru dros Dde Ddwyrain Cymru.

Fe dyngodd y ferch o Gaerffili, fydd yn cymryd lle’r diweddar Steffan Lewis, ei llw ddoe (dydd Gwener, Chwefror 8) gan addo “gwneud popeth i anrhydeddu Steffan”.

“Mae’n fraint anferthol i olynu Steffan Lewis fel Aelod Cynulliad Cymru dros Dde Ddwyrain Cymru,” meddai, cyn ychwanegu mai ei nod yw “cynrychioli’r bobol y gwnaeth ef eu cynrychioli mor dda”.

Cefndir

Cafodd Delyth Jewell ei geni yng Nghaerffili a’i magu yn Ystrad Mynach.

Fe fynychodd Ysgol Bro Allta, ac yna Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, cyn graddio gyda BA a gradd meistr o Brifysgol Rhydychen.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn ymchwilydd seneddol yn San Steffan ble chwaraeodd hi ran flaenllaw ar ymgyrchoedd wnaeth arwain ar gyfreithiau newydd ar stelcian yn 2012 a thrais yn y cartref yn 2015.

Bu hefyd yn gweithio i Cyngor ar Bopeth a’r elusen ActionAid sy’n gweithio ar faterion yn ymwneud â hawliau menywod a datblygu rhyngwladol.