Mae pryder bydd twristiaeth a busnesau ym Miwmares yn dioddef os na fydd cytundeb ar gyfer safle pwrpasol i barcio bysus.

Biwmares yw un o leoliadau mwyaf poblogaidd Ynys Môn a daw twristiaid yn eu heidiau oddi ar longau sy’n cyrraedd porthladd Caergybi.

Gyda chynllun y Cyngor Sir i daclo effeithiau llifogydd ar waith ers Ionawr 4, mae maes parcio’r Castell, sydd fel arfer yn lleoliad parcio i fysus, yn cael ei ddefnyddio fel compownd gwaith.

Mae hyn yn gadael maes parcio’r Grîn ym Miwmares fel un opsiwn fyddai’n gallu cael ei ffafrio ar gyfer parcio bysus sy’n ymweld.

Er i drafodaethau gael eu cynnal ynghylch y syniad hwnnw rhwng y Cyngor Sir a Chyngor Tref Biwmares yn Rhagfyr 2018, does dim cytundeb.

“Yn anffodus, hyd yma nid yw ein hymdrechion i ddiogelu rhan o’r Grîn ym Miwmares fel lle parcio amgen i fysus moethus wedi bod yn llwyddiannus,” meddai’r Cynghorydd Sir, Bob Parry.

Mi fydd cynllun y Cyngor Sir yn darparu gwell amddiffyniad rhag llifogydd i gartrefi a busnesau Biwmares, ac mae disgwyl iddo fynd ymlaen am o leiaf pum mis.

Y bwriad yw creu llwybr dargyfeirio i mewn i Fiwmares pan fydd lôn y B5109 wedi ei chau fel rhan o’r gwaith.

“Yn absenoldeb unrhyw opsiwn ymarferol arall, rwy’n annog y Cyngor Tref i gydweithio â ni er mwyn sicrhau y gall Biwmares barhau i elwa o’r farchnad dwristiaeth mordeithio hon,” meddai Bob Parry.