Mae cwmni Tesco yn dathlu ei ganmlwyddiant drwy roi cyfle i gymunedau’r gogledd geisio am grantiau o bot gwerth £100,000.

Bydd sefydliadau cymunedol ar draws y gogledd yn cael eu gwahodd i ddwy rownd bleidleisio fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael rhannu arian prosiect ‘Bags of Help’.

Mae’n cael ei redeg ar y cyd gyda’r elusen gymunedol Groundwork sy’n rhoi arian i filoedd o brosiectau cymunedol bob blwyddyn.

Drwy gydol misoedd Gorffennaf ag Awst bydd dwy rownd ariannu yn canolbwyntio ar grwpiau cymunedol sy’n darparu buddion iechyd a lles.

Yn unol â Phartneriaeth Iechyd Cenedlaethol Tesco, bydd canolbwyntio penodol ar grwpiau sy’n mynd i’r afael â chanser, clefyd y galon a diabetes.

Gall grwpiau dderbyn grantiau gwerth £25,000, £15,00 a £10,000.