Mae’r heddlu yn mynd o ddrws i ddrws yn Llanymddyfri er mwyn ceisio datrys lladrad yn y Co-op lleol.
Fe gafodd y glas wybod am y lladrad am 2.13 fore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 8) a a phan aethon nhw i’r siop yn Sir Gaerfyrddin roedd tu blaen ochr chwith y Co-op wedi ei ddifrodi yn arw.
Ymddengys bod JCB wedi cael ei ddefnyddio i ddwyn peiriant twll yn y wal.
Roedd y JCB wedi ei ddwyn o fferm gyfagos, a daeth yr heddlu o hyd iddo ym maes parcio’r siop, gyda’r allweddi yn dal ynddo.
Apelio am wybodaeth
Mae’r Heddlu yn annog ffermwyr a pherchnogion peiriannau trwm i’w cloi nhw ac osgoi gadael yr allweddi ynddyn nhw.