Ni fydd athrawon yn streicio am dridiau’r wythnos nesaf yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Roedd aelodau’r undeb athrawon National Association of Schoolmasters Union of Women Teachers (NASUWT) wedi bwriadu peidio â gweithio ar Chwefror 12, 13 ac 14, am eu bod yn anhapus gydag “arferion rheoli niweidiol”.

Ond mae tro pedol wedi bod.

Dywedodd llefarydd Cyngor Sir Ceredigion:  “Yn dilyn trafodaethau adeiladol rhwng Cyngor Sir Ceredigion a’r NASUWT, ni fydd y streic a drefnwyd ar gyfer 12-14 Chwefror yn mynd yn ei blaen.

“Mae cynnydd da wedi cael ei wneud mewn sawl man ac mae’r ddau barti wedi ymrwymo’n llawn i gydweithio gyda’r ysgol i ddiwygio gweithdrefnau ac i ddatblygu perthnasau er budd staff a’r disgyblion.”

Cefndir

Cafodd y streic undydd gyntaf ei chynnal gan aelodau’r NASUWT yn Ysgol Uwchradd Aberteifi ar Ionawr 22, gyda’r bwriad o gynnal pum diwrnod o streicio pellach yn ystod yr wythnosau dilynol.

Yn ôl yr undeb, maen nhw’n streicio oherwydd arferion rheoli’r ysgol sy’n creu “diwylliant o ofn”.

Ond daeth ymchwiliad annibynnol gan Gyngor Sir Ceredigion i’r casgliad nad oes “unrhyw dystiolaeth o fwlio neu fygwth” o fewn yr ysgol.

Ymateb NASUWT i hynny yw bod yr adroddiad wedi gwyngalchu’r sefyllfa.

Roedd aelodau NASUWT yr ysgol i fod i gynnal streic yr wythnos hon, ond fe gafodd honno ei gohirio hefyd “o ganlyniad i gynnydd yn y trafodaethau gyda’r cyflogwr” yn ôl  Ysgrifennydd Cyffredinol  NASUWT, Chris Keates.