Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad ar ddydd Gwener (Chwefror 8), wrth i’r genedl ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Yn Abertawe mi fydd gig arbennig yn cael ei gynnal – yn rhad ac am ddim – yn ‘The Bunkhouse’ gyda Los Blancos, Y Sybs, a Hyll yn perfformio.

Ac yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, bydd modd gweld llu o fandiau gan gynnwys Gwilym, CHROMA, R.Seiliog, Ani Glass, a Rhys Dafis.

Bydd cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae mewn 104 o dafarnau S.A.Brain & Co, wedi i’r cwmni gytuno i gyfrannu at y diwrnod.

Ac mi fydd boombox â cherddoriaeth Gymraeg yn teithio i ysgolion ar draws Cymru gan ddechrau yng Nghaergybi a gorffen yng Nghaerdydd.

“Y diwrnod mawr”

“Efallai mai gitârs neu greim, hip hop neu harmonïau, bîts gwichlyd neu ganu’n uchel ar y cyd yw dy bethau,” meddai’r DJ Radio 1 a ‘llysgennad miwsig Cymraeg’, Huw Stephens.

“Ond beth bynnag sy’n dy gyffroi, mae yna fiwsig Cymraeg i ti wrando arno a syrthio mewn cariad o’r nodyn cyntaf …

“Dyma’r diwrnod a fydd yn dathlu peth o’r miwsig anhygoel sy’n cael ei wneud yn y Gymraeg.

“Ble bynnag yr wyt ti yng Nghymru, mae gennym ni sioeau byw ym mhob rhan o’r wlad ar y diwrnod mawr.”