Daeth cadarnhad mai corff Emiliano Sala gafodd ei ddarganfod yng ngweddillion awyren ger Guernsey.

Cafodd ei gorff ei godi o weddillion yr awyren fechan ar wely’r môr a’i adnabod yn swyddogol gan y crwner yn Dorset ddydd Iau, 7 Chwefror.

Nid yw corff y peilot, David Ibbotson, 59, wedi cael ei ddarganfod. Bu’n rhaid rhoi’r gorau i chwilio amdano oherwydd amodau tywydd gwael.

Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod ac yn parhau i gael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd mewn datganiad eu bod yn estyn “cydymdeimlad o waelod calon” at deulu Emiliano Sala.

Mae nifer o chwaraewyr pêl-droed eraill hefyd wedi talu teyrnged i ymosodwr Caerdydd a oedd newydd arwyddo i’r clwb.

Mae Arlywydd yr Ariannin Mauricio Macri hefyd wedi cydymdeimlo gyda theulu Emiliano Sala.

Fe ddiflannodd yr awyren Piper Malibu N264DB dros y Sianel ger Guernsey ar 21 Ionawr. Roedd Emiliano Sala yn teithio o Nantes i Gaerdydd er mwyn dechrau hyfforddi gyda’i glwb newydd.

Roedd timau achub wedi methu a dod o hyd i’r awyren ond cafodd ei darganfod yn ddiweddarach gan Y Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) ar ôl i deulu’r pêl-droediwr dalu am ymdrech newydd i chwilio amdano.