Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Llanbedr Pont Steffan heno (nos Iau, Chwefror 7) i drafod cynlluniau i adeiladu 95 o dai newydd yn y dref.

Mae cwmni Geraint John Planning Ltd wedi cyflwyno cais i Gyngor Ceredigion er mwyn adeiladu’r tai ar gae rhwng Maes y Deri, Pen Bryn a Bryn Steffan, a nod y cyfarfod yn Neuadd Fictoria heno yw trafod y cynlluniau.

Mae pryderon eisoes wedi cael eu lleisio ynglŷn â maint y datblygiad, gyda rhai’n gofidio am allu’r dref i ymdopi â chymaint yn rhagor o bobol.

Ond mae cynghorydd tref yn wfftio hynny, gan ddadlau bod hi’n annhebygol y bydd  y tai yn cael eu llenwi dros nos.

“Efallai bod 95 o dai mewn un man yn ormod,” meddai David Smith wrth golwg360, “ac rwy’n gwybod fod yna broblemau o ran mynedfeydd. Mae yna ddau bosib – un ym Maes y Deri ac un ym Mryn Steffan.

“A phetasai 95 teulu yn symud yno ar unwaith, fe allai hynny fod yn broblem. Ond rhaid defnyddio synnwyr cyffredin. Dydyn nhw ddim yn mynd i adeiladu 95 tŷ, a’u llenwi i gyd ar yr un pryd. Dw i’n credu byddai’r broses yn un raddol.”

Swyddi

Yn ogystal â phryderon am y straen ychwanegol y gallai’r datblygiad rhoi ar wasanaethau lleol mae cwestiynau wedi’u codi ynglŷn â lle fydd y preswylwyr newydd yn gweithio.

Dyw David Smith ddim yn poeni’n ormodol am hynny.

“Wel, a bod yn onest,” meddai, “dyw’r rhan fwyaf o bobol sy’n gweithio yma ddim yn byw yma ta beth. Maen nhw’n gweithio yn Aberystwyth neu Gaerfyrddin – lle bynnag.”