Fe fydd Clwb y BBC yn Llandaf yn cael ei ddrysau am y tro olaf ddydd Gwener yr wythnos hon (Chwefror 8).

Mae’r cwmni annibynnol sydd wedi bod yn rhedeg y bwyty a’r bar a’r lleoliad digwyddiadau yn dweud eu bod wedi penderfynu cau yn gynharach na’r dyddiad disgwyliedig ddiwedd y flwyddyn oherwydd “rhesymau masnachol”.

Mae lle i gredu bod y penderfyniad yn ymwneud â’r Gorfforaeth yn symud i bencadlys newydd yng nghanol Caerdydd, ac nad oes lle i’r Clwb ar y safle hwnnw.

Ebost

“Roedd y clwb wedi gobeithio cynnal gwasanaeth llawn tan yn ddiweddarach eleni,” meddai BBC Cymru mewn ebost i’w staff, “ond ni fydd bwyd ar gael rhwng heddiw (dydd Mercher, Chwefror 6) a diwedd yr wythnos, ac fe fydd masnachu yn dod i ben ddydd Gwener.

“Diolch am eich cwsmeriaeth ar hyd y blynyddoedd, ac am eich holl gefnogaeth sydd wedi cael ei gwerthfawrogi,” meddai’r neges wedyn.

“Cwbwl annibynnol o’r BBC”

“Mae’r Clwb yn gwbwl annibynnol o’r BBC ac nid yw’n derbyn arian o ffi’r drwydded,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru wrth golwg360.

“Mae ganddo ei gyfansoddiad ei hun ac mae’n gweithredu’n annibynnol.

“Mae ganddo aelodaeth fechan sydd yn cynnwys rhai o staff y BBC ac rydym yn gwybod y bydd nifer ohonyn nhw’n gweld colled wedi i’r clwb gau.”