Un o siopau Virgin Media (Mtaylor848 CCA 3.0)
Mae Aelod Cynulliad lleol wedi gofyn am gyfarfod gyda chwmni Virgin Media tros fygythiad i 80 o swyddi yn Abertawe.

Er bod y cwmni wedi cyhoeddi ddoe eu bod yn creu canolfan ragoriaeth yn eu canolfan alwadau yn y ddinas, fe ddaeth yn glir hefyd fod 80 o swyddi mewn peryg.

Yn awr, mae’r AC o Abertawe, Peter Black, wedi galw ar y cwmni i setlo pethau “yn gyflym ac yn deg”.

Tan hynny, meddai, dim ond croeso rhannol y mae’n ei roi i’r newyddion am y ganolfan ragoriaeth i ddelio gyda galwadau ynglŷn â ffonau symudol, teledu cebl a band eang.

Da i’r rhan fwya’

“Mae’r newyddion yn dda i’r rhan fwya’ o staff yng nghanolfan alwadau Virgin Media yn Abertawe ac i’r ddinas ei hun. Fe fydd hyn yn diogelu 600 o’r 680 o swyddi yn Abertawe.”

Fe fydd Virgin Media yn cau canolfan yn Lerpwl ac fe fydd rhai o’r gweithwyr yno’n cael cynnig i symud i Abertawe.