Dignitas - teulu yn ffarwelio (o wefan y clinig)
Mae dyn o ogledd Cymru yn dweud ei fod yn ystyried mynd i ddiweddu’i fywyd yng nghlinig Dignitas yn y Swistir.

Mae Chris Woodhead, cyn bennaeth dadleuol y corff arolygu ysgolion yn Lloegr, yn diodde’ o glefyd motor niwron ac fe ddyweodd wrth y Times Educational Supplement ei fod yn ystyried ei ladd ei hun.

Yr awgrym oedd y byddai wedi gwneud hynny eisoes, oni bai am agwedd ei wraig a’i deulu ond, ar ôl gweld rhaglen deledu am Dignitas ar y BBC, fe ddywedodd bod y dull hwnnw o farw yn apelio ato. Roedd yn “urddasol”, meddai.

Byw yn y Gogledd

Mae Chris Woodhead yn byw yn Eryri ers rhai blynyddoedd, ar ôl iddo ymddeol o fod yn bennaeth Ofsted.

Cyn hyn, ar ôl clywed fod ganddo’r clefyd, fe ddywedodd ei fod yn fwy tebyg i yrru ei gadair olwyn tros glogwyn yng Nghernyw na mynd at Dignitas.

Fe ddywedodd wrth y TES mai un broblem anodd iddo oedd gwybod pryd i weithredu – fe allai fynd yn rhy wael i gymryd y bilsen farwol yn Dignitas.