Mae croeso brwd wedi bod i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd gorfodaeth gyfreithiol i ddysgu’r Saesneg i blant cynradd.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Llun, Chwefror 4) na fyddai’n cael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth ar addysg gynradd.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Llywodraeth dros y Gymraeg, y byddai’r cymal hwnnw yn y papur gwyn yn cael ei ddiddymu.

Fe fu ymateb chwyrn i’r mater a chafodd  ei godi gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Iaith ag Addysg, Siân Gwenllian, yn y Senedd wythnos diwethaf gan ysgogi llawer i bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno’r newid.

“Grym y bobl”

Dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith eu bod yn “falch iawn nad yw’r cynnig i orfodi dysgu’r Saesneg yn mynd i fod yn y ddeddfwriaeth gynradd.”

“Mae sylwadau’r Gweinidog yn dangos bod grym y bobl yn gallu newid polisi, ac yn wers i ni i gyd ddefnyddio’r grym democrataidd hwnnw yn rheolaidd.

“Gan ein bod yn symud at system addysg sy’n addysgu’n bennaf drwy gyfrwng Cymraeg, mae’n hollbwysig bod y rhai sy’n datblygu’r cwricwlwm gyda dealltwriaeth gadarn o addysg Gymraeg,” ychwanegodd.

“Ffyrnigrwydd yr ymateb”

 Mae undeb addysg UCAC hefyd wedi croesawu’r eglurhad sydd wedi’i gynnig gan Lywodraeth Cymru heddiw y bydd Cylchoedd Meithrin ac ysgolion yn cael parhau i drochi plant yn y Gymraeg.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’n galwadau ni ac eraill i gynnig eglurhad diamheuol o’u bwriad mewn perthynas â throchi. Croesawn y gydnabyddiaeth nad oedd geiriad y cynnig yn y Papur Gwyn yn adlewyrchu bwriad y Llywodraeth yn gywir.

“Roedd unfrydedd a ffyrnigrwydd yr ymateb gan fudiadau a rhieni i’r bygythiad yma’n dangos gwerth y dull trochi fel ffordd o greu dinasyddion dwyieithog. Mae’n profi yn ogystal yr angen i barhau’n wyliadwrus, i gadw llygad barcud ac i leisio barn a herio mewn trefn ddemocrataidd.

“Edrychwn ymlaen nawr at ymateb mewn manylder i’r cynigion fydd yn symud ein cwricwlwm i gyfnod newydd arloesol.”