Mae streic ddeuddydd a oedd i’w chynnal yn Ysgol Uwchradd Aberteifi yr wythnos hon wedi cael ei gohirio yn sgil “cynnydd yn y trafodaethau”.

Roedd disgwyl i aelodau o undeb NASUWT streicio ddydd Mawrth a dydd Mercher yn sgil ffrae yn ymwneud ag “arferion rheoli niweidiol” o fewn yr ysgol.

“O ganlyniad i gynnydd yn y trafodaethau gyda’r cyflogwr, gwnaed y penderfyniad i ohirio’r streic ar gyfer yr wythnos [hon] er mwyn cynnal rhagor o drafodaethau,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr NASUWT, Chris Keates.

“Mae’r streic ar gyfer yr wythnos ddilynol yn aros yn ei le.”

Cefndir

Cafodd y streic undydd gyntaf ei chynnal gan aelodau’r NASUWT yn Ysgol Uwchradd Aberteifi ar Ionawr 22, gyda’r bwriad o gynnal pum diwrnod pellach yn ystod yr wythnosau dilynol.

Yn ôl yr undeb, maen nhw’n streicio oherwydd arferion rheoli’r ysgol sy’n creu “diwylliant o ofn”.

Ond daeth ymchwiliad annibynnol gan Gyngor Sir Ceredigion i’r casgliad nad oes “unrhyw dystiolaeth o fwlio neu fygwth” o fewn yr ysgol.

Ymateb yr NASUWT i hynny yw bod yr adroddiad wedi gwyngalchu’r sefyllfa.