Mae un o’r criw sydd wedi bod wrthi yn adfer yr arwydd ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal yng Ngheredigion wedi disgrifio sut y cafodd ei “wylltio yn arw” ar ôl gweld yr enw ‘Elvis’ yn ymddangos arno dros y penwythnos.

Bu’r criw, yn cynnwys pobol ifanc o ardaloedd Trawsfynydd, Aberystwyth a gogledd Sir Benfro, yn adfer y wal ar ymyl yr A487 ger Llanrhystud ers 9 o’r gloch neithiwr  (nos Sul, 3 Chwefror) – oriau yn unig ar ôl sylwi bod y gwaith gwreiddiol wedi ei ddileu.

Yn ôl Elfed Wyn Jones, cafodd yntau a’i ffrindiau eu siomi o weld “darn o hanes Cymru yn cael ei ddifrodi” a bod hynny wedi’u symbylu i “ymateb yn syth”.

“Ddaru ni feddwl, os wnawn ni ddim gweithredu, hwyrach na fyddai neb arall yn ei wneud,” meddai wrth golwg360.

“O’u cydwybod eu hun y ddaru pawb ei wneud o. Fe wnaethon ni ymateb yn syth i ddangos ein bod ni wedi cael digon o bethau’n cael eu difrodi yn y wlad yma a’r amarch fel yma.

“Fe wnaethon ni ymateb yn syth i ddangos ein bod ni’n barod i weithredu’n gyflym pan fo rhywbeth fel hyn yn digwydd.”

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb”

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu’r wal hanesyddol, sy’n coffáu pentref Capel Celyn a gafodd ei foddi yn ystod yr 1960au er mwyn sicrhau cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl.

Mae’r Aelod Cynulliad, Bethan Sayed, hefyd wedi cefnogi galwad o’r fath, gan ddweud y byddai gwneud y wal yn gofeb barhaol yn “helpu i addysgu pobol am ein hanes”.

Ychwanega Elfed Wyn Jones: “Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig i edrych ar ôl Banksy [ym Mhort Talbot], ac mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ofalu am wal Cofiwch Dryweryn.

“Mae yna ddeiseb ar-lein sydd ag agos i 2,000 o arwyddwyr erbyn rŵan. Mae hynny’n dangos bod yna ofyn mawr [am adfer], ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb rŵan er mwyn ei amddiffyn o, achos does dim pwynt trio ymateb yn hwyrach i lawr y lein rhag ofn iddo gael ei ddifrodi eto.”

“Barod i drafod”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud ac eraill sydd â diddordeb  er mwyn gwella’r ffordd y mae’r safle’n cael ei ddehongli a’i warchod.

“Nid yw cofeb ‘Cofiwch Dryweryn’ yn gofeb restredig,  ond mae Cadw bob amser yn barod i ailystyried cais am restru os oes tystiolaeth newydd.  Mae trafodaethau blaenorol am ddyfodol y safle wedi cwestiynu ai rhestru fyddai’r ffordd orau o ddarparu’r diogelwch sydd ei angen; er hynny,  fe hoffem archwilio’r opsiynau ar gyfer y dyfodol.”