Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn 40 oed ar amheuaeth o achosi niwed drwy yrru’n beryglus ar ôl i dri seiclwr gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad ddydd Sul (3 Chwefror).

Mae’r dyn, sy’n dod o ardal Gwent, hefyd wedi’i gyhuddo ar amheuaeth o fethu ag aros ar ôl gwrthdrawiad ac o yfed a gyrru. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad tua 4yp ddydd Sul yn Heol Llanllywel, Llanllywel, Sir Fynwy.

Cafodd y tri seiclwr anafiadau difrifol a’u cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 363 03/02/19.