“Graffiti oedd e beth bynnag” yw ymateb yr arlunydd Wynne Melville Jones i’r newyddion fod arwydd hanesyddol ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud bellach yn dwyn y gair ‘Elvis’.

Fe ddaeth llun o’r graffiti newydd i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw (dydd Sul, Chwefror 3), gyda rhai yn dweud fod y weithred yn un hiliol yn erbyn Cymru.

Mae’r gofeb hanesyddol yn cofio am foddi pentref Capel Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr i drigolion Lerpwl yn 1965. Cafodd ei baentio gan Meic Stephens, yn wreiddiol heb dreiglo enw’r lle.

“Mae e fynna yn ddatganiad cyhoeddus ac mewn ffordd, mae pobol, i bob pwrpas, yn gallu gwneud beth fynnon nhw ag e,” meddai Wynne Melville Jones wrth golwg360.

Fe fu’n ymgyrchu yn y gorffennol i warchod y wal oherwydd ei natur hanesyddol.

“Mae risg yna gyda’r math yma o gelf fod rhywun yn mynd i ymyrryd ag e,” meddai.

“Mae sloganau gwahanol wedi ymddangos ar y wal dros y cyfnod mae e wedi bod yna, ac yn dod yn ôl i ‘Cofiwch Dryweryn’.”

‘Pwnc sy’n dal i gyffwrdd â phobol’

Dros hanner canrif yn ddiweddarach, mae pwnc Tryweryn “yn dal i gyffwrdd â phobol”, meddai.

“Mae pobol, i raddau helaeth iawn, yn teimlo perchnogaeth ynglŷn â’r wal achos mae e’n rhan o’n bywydau bob dydd ni fel Cymry, wrth i ni deithio ’nôl a ’mlaen.

“Gallech chi ddehongli’r peth bob ffordd. Ond graffiti oedd e ac mae’n agored i gael ei newid.

“Ond mae’n fwy o stynt nag o anwybodaeth.”

Craig Elvis Pumlumon

Mae Wynne Melville Jones yn cymharu’r weithred ddiweddaraf â phaentio’r enw ‘Elvis’ ar graig yn ardal Pumlumon.

“Mae hwnnw wedi dod yn ddathliad i frenin y byd roc yng ngwlad y gân,” meddai. “Ond nid Elvis oedd hwnnw’n wreiddiol, ond ‘Elis’.”

Cafodd yr enw ‘Elis’ ei baentio ar y graig adeg is-etholiad yn Sir Drefaldwyn, lle’r oedd Islwyn Ffowc Elis yn ymgeisydd Plaid Cymru.

“Fe gafodd ei gamsillafu gyda dwy ‘l’,” eglura.

“Roedd y graffiti ar y wal ar ôl yr etholiad ac mae wedi para dros y blynyddoedd, ond wedi’i newid o ‘Elis’ i ‘Elvis’.

“Mae’r graig honno’n rhan o’n bywydau ni i gyd hefyd, ac yn cael ei gydnabod fel dathliad cenedlaethol o Elvis Presley erbyn hyn.”