Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn ymchwilio i ymddygiad cefnogwyr pêl-droed yn ninas Bryste ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 2).

Mae adroddiadau bod criw o gefnogwyr wedi cydlynu trais a difrod troseddol ar ddiwrnod y gêm rhwng yr Elyrch a Bristol City.

“Mae’n destun siom go iawn fod criw mawr o gefnogwyr Abertawe yn ymddangos fel pe baen nhw wedi glanio ym Mryste gyda’r bwriad o yfed yn ormodol a cheisio gwrthdaro,” meddai’r heddlu.

“Roedd yna anhrefn o fewn y cae, gyda gwrthrychau’n cael eu taflu gan bob criw o gefnogwyr.

“Roedd yna anhrefn pellach wedi’r gêm yn Ashton Park.”

Difrod

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw wedi defnyddio ceffylau a chŵn i wahanu’r cefnogwyr, a bod o leiaf ddwy dafarn wedi cael eu difrodi.

Fe fu’n rhaid i gi heddlu gael triniaeth i’w goes, a chafodd plismon ei daro yn ei wyneb gan ddarn arian.

Cafodd plismyn ar gefn ceffylau ac ar droed eu gwthio i mewn i ffens, a bu’n rhaid i’r tri gael triniaeth feddygol.

Cafodd un dyn o Abertawe ei arestio ar ôl y gêm am ymosod ar gefnogwr arall o Gymru, ond fe gafodd ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Barn y cefnogwyr

Mae’r cefnogwyr, yn y cyfamser, yn dweud bod yr heddlu wedi gor-ymateb i’r sefyllfa.

Mae adroddiadau bod hyd at 1,00 o gefnogwyr Abertawe wedi cael eu cadw allan o’r stadiwm tan 3.25yp, 25 munud ar ôl y gic gyntaf.

Mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos yr heddlu’n defnyddio grym i dawelu’r cefnogwyr yn y cae.

Bristol City oedd yn fuddugol o 2-0 – y tro cyntaf i’r Elyrch golli yn 2019.

Roedd 3,300 o gefnogwyr Abertawe yn y stadiwm, a nifer yn protestio yn erbyn y cadeirydd Huw Jenkins cyn ei ymddiswyddiad a’r perchnogion Americanaidd, Jason Levien a Steve Kaplan.