Mae Heddlu’r De yn helpu Heddlu Swydd Caer i chwilio am Louise Wilde, 40, o Warrington.

Mae lle i gredu iddi gael ei gweld yng Nghaerdydd nos Iau (Ionawr 31), ac yn Durham ddiwrnod wedi iddi fynd ar goll.

Dydy ei theulu ddim wedi ei gweld hi ers iddi adael ei chartref ar Ionawr 25.

Mae hi’n 5’10”, o gorffolaeth denau ac mae ganddi lygaid brown a gwallt du hir.