Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am Chris Hulbert, 39, sydd ar goll o Rosllannerchrugog.

Pan aeth e ar goll, roedd e’n gwisgo siaced goch a thop llwyd, trowsus glas ac esgidiau gwyrdd a gwyn.

Mae hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw Christopher Cooper.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.