Mae tad a mab o Lansawel wedi’u cadw yn y ddalfa wedi iddyn nhw gael eu cyhuddo o gaethwasiaeth.

Mae Anthony Howard Baker, 48, a Harvey Baker, 19, wedi’u cyhuddo o gadw dyn 20 oed yn gaeth am ddwy flynedd, a chwe chyhuddiad o achosi niwed corfforol bwriadol.

Aethon nhw gerbron ynadon yn Abertawe fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 2), lle pledion nhw’n ddieuog.

Clywodd y llys fod y ddau wedi cadw’r dyn yn gaeth ac wedi ei orfodi i weithio iddyn nhw.

Byddan nhw’n ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun (Chwefror 4).