Mae pedwar o bobol yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn eiddo yn Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Gwernymynydd toc wedi 1 o’r gloch y bore.

Mae lle i gredu mae nam ar oergell a rhewgell oedd wedi achosi’r digwyddiad.

Cafodd pedwar o bobol driniaeth am effeithiau mwg, ac roedd difrod i gegin eu cartref.