Mae disgwyl i’r tywydd wella dros y penwythnos, er bod rhybudd melyn yn dal mewn grym fore heddiw (Chwefror 2).
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am eira a rhew mewn rhannau helaeth o’r gogledd-orllewin a’r de-ddwyrain, ond mae disgwyl i’r tymheredd godi yn ystod y prynhawn.
Fe fu’n rhaid i gannoedd o ysgolion yn y gogledd gau ddydd Gwener o ganlyniad i’r tywydd.