Mae cefnogwyr rygbi Cymru a rhai sylwebwyr sydd ar eu ffordd i gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharis, yn cael trafferthion teithio oherwydd yr eira.

Gyda’r gêm yn dechrau am wyth heno yn y Stade de France, mae’n edrych yn debygol na fydd llawer yn gallu ei gwneud hi.

Mae meysydd awyr Caerdydd a Bryste wedi gorfod canslo awyrennau, ac mae cefnogwyr yn wynebu ras yn erbyn amser i gyrraedd prifddinas Ffrainc.

Er hynny, mae disgwyl i bedwar awyren hedfan o Gaerdydd i Baris toc wedi un y prynhawn yma (Dydd Gwener, Chwefror 1).

Mae’r maes awyr yn cynghori teithwyr i gadw golwg ar y wybodaeth fyw ar eu gwefan ac i gysylltu â chwmnïau’r awyrennau.

Roedd cyn-gapten Cymru a sylwebydd y BBC, Sam Warbuton, yn un o’r rhai oedd i fod i hedfan am 9.30 y bore yma o Gaerdydd i faes awyr Charles de Gaulle.