Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystyried cynlluniau ad-drefnu a all arbed £6.5m i’r sefydliad.
Yn ôl llefarydd ar ran y brifysgol, mae swyddogion eisoes wedi cynnal cyfarfod gyda chynrychiolwyr yr undebau llafur ac aelodau o staff er mwyn “amlinellu’r sefyllfa gyfredol a rhannu’r camau nesaf”.
Dywed y byddai adolygiad ar ad-drefnu yn ystyried:
- Y strwythur academaidd ar draws campysau a chanolfannau’r brifysgol;
- Y cwricwlwm a nifer y rhaglenni sy’n cael eu cynnig;
- Lefelau staffio ar draws y brifysgol.
Ychwanega’r llefarydd fod lefelau staffio’r brifysgol ar hyn o bryd yn cyfateb i “ymron 70% o’i refeniw”, ond bwriad yr ailstrwythuro yw lleihau’r gost hon i fod yn agosach at norm y sector yng Nghymru, sef 55%.
“Mae potensial gan newidiadau o’r fath i gyflawni gostyngiad o £6.5m er mwyn sicrhau bod gan y Brifysgol yr hyblygrwydd a’r gwytnwch i wneud cyfraniad sylweddol i genhadaeth economaidd, ddiwylliannol a dinesig Cymru yn y dyfodol,” meddai’r llefarydd.