Mae 15 o bobol wedi cael eu harestio mewn ymgyrch ar y cyd rhwng gwahanol asiantaethau sy’n ceisio mynd i’r afael a chyffuriau anghyfreithlon yn Abertawe a Port Talbot.
Mae’r asiantaethau yn cynnwys yr heddlu lleol, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, awdurdodau lleol, Tai Tarian, Gwalia a Coastal, ac asiantaethau sy’n cynnig cymorth i ddefnyddwyr cyffuriau lleol fel Barod, WCADA a Dyfodol.
Maen nhw’n dweud eu bod wedi llwyddo i arestio nifer o droseddwyr, cynnal cyrchoedd ar nifer o dai, a dod o hyd i gyflenwadau sylweddol o gyffuriau fel heroin, cocên, a chanabis.
Yn ogystal â dal troseddwyr, mae’r heddlu’n dweud eu bod wedi llwyddo i adnabod rhagor o bobol fregus o fewn y cymunedau fyddai’n debygol o gael eu defnyddio gan gangiau cyffuriau.
Llwyddiant Ymchwiliad Cristo
Ers dydd Sadwrn, Ionawr 19, mae Ymchwiliad Cristo wedi arwain at arestio 15 o bobol am droseddau sy’n cynnwys bod a chyffuriau dosbarth A a B yn eu meddiant gyda’r bwriad o’i werthu.
Ar ddydd Mercher (Ionawr 23) hefyd cafodd cyflenwad cyffuriau gwerth £25,000 ei ddarganfod yn y dref – sydd wedi arwain at arestio pedwar person.
“Cydweithredu yn allweddol”
Dywedodd Prif Arolygydd Ymchwiliad Cristo, Mathew Lewis bod y gweithredu aml-asiantaeth wedi bod yn “llwyddiannus iawn”.
“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael a’r troseddwyr hyn a’r diflastod maen nhw’n dod i’n cymunedau.
“Ni allwn ennill y frwydr yn erbyn rhain ar ben ein hunain. Mae dull partneriaeth yn allweddol, a rhaid i’r partneriaid hynny gynnwys ein cymunedau lleol hefyd.”