Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion wedi anhrefn gyhoeddus yn Bangor Uchaf nos Sadwrn, (Ionawr 26), cyn gêm bêl-droed Cwpan Cymru rhwng Bangor a Chaernarfon.

Fe fu ymladd rhwng cefnogwyr pêl-droed Bangor a Chaernarfon cyn y gêm ddarbi fawr yn Nantporth toc cyn 7yh nos Sadwrn.

Mae’n debyg fod yr ymladd wedi dechrau ger tafarn Paddy’s Bar ar Ffordd Caergybi.

Bu’n rhaid i’r heddlu gau’r ardal i deithwyr am oddeutu hanner awr wrth iddyn nhw geisio tawelu’r cefnogwyr, gan ofyn i bobol gadw draw.

Cafodd un plismon ei gludo i’r ysbyty am driniaeth, a nifer o bobol wedi’u harestio.