Mae Neil Warnock wedi cyfaddef ei fod wedi ystyried a allai gario mlaen i fod yn rheolwr Caerdydd ar ôl i’r awyren a oedd yn cario Emiliano Sala ddiflannu wythnos yn ôl.

Roedd yr ymosodwr newydd arwyddo i’r clwb am £15m ac roedd Neil Warnock wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda’r chwaraewr dros yr wythnosau diwethaf, meddai.

Fe ddiflannodd yr awyren nos Lun (Ionawr 21) wrth hedfan o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd. Mae teulu Emiliano Sala wedi codi £300,000 er mwyn ail-ddechrau’r chwilio am yr awyren fechan ger Guernsey.

“Wythnos drawmatig”

Wrth siarad â’r cyfryngau am y tro cyntaf ers ei ddiflaniad, dywedodd Neil Warnock: “Rydych chi’n meddwl 24 awr y dydd os ydych chi’n gallu cario mlaen.

“Mae’n amhosib cysgu. Dw i wedi bod yn rheolwr pêl-droed ers 40 mlynedd a dyma’r wythnos anoddaf yn fy ngyrfa, o bell ffordd.

“Mae wedi bod yn wythnos drawmatig a hyd yn oed rŵan dw i’n ei chael hi’n anodd dygymod a’r sefyllfa.”