Fe fydd papur gwyn yn cael ei lansio heddiw ar y cwricwlwm addysg newydd yng Nghymru, sy’n cael ei ystyried fel y newid mwyaf arwyddocaol i’r cwricwlwm ers tri degawd.

Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, yn lansio Papur Gwyn heddiw (dydd Llun, Ionawr 28) sy’n gosod y seiliau cyfreithiol ar gyfer y cwricwlwm sy’n cael ei lunio gan athrawon.

Fe fydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad – y Dyniaethau; Iechyd a Lles; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; y Celfyddydau Mynegiannol; a Mathemateg.

Bydd Cymraeg a Saesneg yn parhau’n bynciau gorfodol, ynghyd ag Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Bydd hi’n orfodol dilyn y cwricwlwm Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol hyd at 16 oed.

Newidiadau i ‘godi safonau’

Ond fydd dim Cyfnodau Allweddol bellach, wrth i Gamau Cynnydd gael eu cyflwyno yn eu lle.

Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn bump, wyth, 11, 14 ac 16 oed, gan roi pwyslais ar gyrhaeddiad a chryfderau’r unigolyn.

“Prif ddiben y daith hon yw codi safonau,” meddai Kirsty Williams.

“Rydym am weld ein dysgwyr yn datblygu gwell sgiliau llythrennedd a rhifedd, rydym am iddynt fod yn ddysgwyr dwyieithog medrus sydd â sgiliau digidol da.

“Rydym am iddyn hefyd ddatblygu’n unigolion mentrus, creadigol sy’n meddwl yn feirniadol.”

Dileu cwricwlwm ‘cul, gorlawn ac anhyblyg’

“Rwy’n hollol glir bod rhaid i ni symud i ffwrdd o gwricwlwm cul, gorlawn ac anhyblyg er mwyn codi safonau a sicrhau cyfleoedd ehangach,” meddai.

“Rhaid inni rymuso ysgolion ac athrawon.

“Dyma gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru.

“Rydym wrthi’n datblygu cwricwlwm newydd sy’n sicrhau bod dysgwyr yn barod i wynebu heriau’r dyfodol, ond hefyd rydym yn datblygu cwricwlwm drwy gydweithio, yng ngwir ystyr y gair, gydag ysgolion a rhanddeiliaid.

“Gofynnaf felly i bawb drwy Gymru gyfrannu at y drafodaeth hon dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Mae’r Papur Gwyn hwn yn uchelgeisiol a phellgyrhaeddol. Does dim modd inni gyrraedd y safonau uchel hyn oni bai ein bod yn cynnal trafodaeth drylwyr am genhadaeth ein cenedl.”