Mae Heddlu’r de yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 54 oed farw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 neithiwr (nos Sul, Ionawr 27).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 7:05yh ger Ynysforgan ger Abertawe.

Roedd car Mercedes SLK 200 lliw arian yn y gwrthdrawiad a bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle. Bu’n rhaid cau’r draffordd rhwng cyffordd 46 a 45 am tua 6 awr er mwyn archwilio’r safle.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r gwrthdrawiad, unrhyw un sydd â chamera ar eu car neu rywun a welodd y car yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.