Fe fu ymladd rhwng cefnogwyr pêl-droed Bangor a Chaernarfon cyn y gêm ddarbi fawr yng Nghwpan Cymru yn Nantporth neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 26).

Fe rhybuddiodd yr heddlu bobol i gadw draw o ardal Bangor Uchaf wrth iddyn nhw ymateb i’r digwyddiad toc cyn y gic gyntaf am 7.30yh.

Mae’n debyg fod yr ymladd wedi dechrau ger tafarn Paddy’s Bar ar Ffordd Caergybi.

Bu’n rhaid i’r heddlu gau’r ardal i deithwyr am oddeutu hanner awr wrth iddyn nhw geisio tawelu’r cefnogwyr, gan ofyn i bobol gadw draw.

Cafodd un plismon ei gludo i’r ysbyty am driniaeth, a nifer o bobol wedi’u harestio.

Mae lle i gredu bod hyd at 2,500 o gefnogwyr a 60 o blismyn y tu fewn i’r cae ar gyfer y gêm gwpan a gafodd ei hennill o 2-1 gan Gaernarfon.