Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaeth
Mae gwleidyddion ac undebau wedi ymateb yn chwyrn i newidiadau yn y system budddaliadau i ffermwyr gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, NFU Cymru, mae ffermwyr wedi cael eu “twyllo” gan newidiadau a fydd yn golygu bod taliadau ychwanegol ar gyfer ardaloedd mwy anodd eu ffermio yng Nghymru yn dod i ben.

Mae llythyr wrthi’n cael ei yrru at ffermwyr Cymru ar hyn o bryd sy’n esbonio “na fydd bellach wahaniaeth rhwng lefel y taliadau i ymgeiswyr sy’n ffermio Ardaloedd Llai Ffafriol a’r rheiny nad ydynt yn ffermio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol.”

Bydd y newid, sy’n dilyn ymchwil gan Grŵp Adolygu Annibynnol Glastir, yn golygu bod pob un ffermwr sy’n llwyddiannus yn eu cais am fudd-dal dan gynllun Glastir yn derbyn yr un faint o arian am bob hectar.

Mae 80% o dir Cymru yn cael ei ystyried yn Ardal Lai Ffafriol yn ôl safonau amaeth Ewropeaidd, ac yn ôl y system taliadau blaenorol roedd y tir hwn yn gymwys ar gyfer tâl o £33.60 am bob hectar, o’i gymharu â £28 yr hectar am y tir nad ydyw mewn Ardal Lai Ffafriol.

“Dwi’n teimlo bod ffermwyr wedi cael eu twyllo,” meddai llywydd NFU Cymru Ed Bailey. “Fe fyddan nhw’n teimlo’n rhwystredig iawn gyda’r llwyth newydd o newidiadau.”

Mwy o dâl, ond mwy o gost?

Bydd y system newydd yn golygu bod bob ffermwr yn derbyn £34 yr hectar o fudd-dal os ydyn nhw’n llwyddiannus yn eu cais i ymuno â chynllun Glastir, sy’n rhan o’r Polisi Amaeth Cyffredinol Ewropeaidd. Bydd hyn yn 60 ceiniog ychwanegol ar gyfer ffermwyr mewn ardaloedd anffafriol, a £6 yn ychwanegol ar gyfer ffermwyr eraill.

Ond dydi hynny ddim yn golygu y bydd ffermwyr yn derbyn mwy o arian am bob hectar, yn ôl yr NFU.

“Bydd lefel y tâl yn codi i £34 yr hectar er mwyn cydnabod y costau uwch o ateb gofynion y cynllun,” yn ôl Ed Bailey.

Mae’r llythyr at ffermwyr Cymru yn nodi y bydd y tâl dan y cynllun yn cynyddu, ond bod y nifer o bwyntiau sydd angen eu hennill cyn bod yn gymwys i ymuno â’r cynllun amaeth-amgylcheddol hefyd yn cynyddu.

Dywedodd llefarydd amaeth Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd, wrth Golwg 360 fod newidiadau’r Llywodraeth yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol ar y diwydiant amaeth yng Nghymru.

“Cymru yw’r unig wlad nawr yng ngwledydd Prydain lle nad oes cydnabyddiaeth i ffermwyr sy’n amaethu mewn Ardaloedd Llai Ffafriol.

“Mae’r newid cyfeiriad sydyn yma yn frawychus ac yn mynd i fod yn syndod i nifer o ffermwyr,” meddai Llyr Huws Gruffydd.

‘Newid cyfeiriad’

Yn ôl Llyr Huws Gruffydd, mae’r cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies yn un annisgwyl i bawb yn y diwydiant.

“Yr wythnos diwethaf roedd Alun Davies yn dweud wrthon ni fod mwyafrif y cynllun yn iawn fel ag yr oedd e,” meddai.

Mae’r “newid cyfeiriad” honedig yma hefyd wedi cael ei feirniadu gan yr NFU, sy’n dweud fod Alun Davies wedi sicrhau’r undeb yr wythnos diwethaf mai newidiadau bychain iawn fyddai i’r cynllun.

“Wythnos yn ddiweddarach, ac ry’n ni’n darganfod newidiadau sylfaenol iawn i’r cynllun,” meddai llywydd NFU Cymru, Ed Bailey.

Ond mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth yn mynnu y bydd y newidiadau o fudd i’r diwydiant amaeth yng Nghymru.

“Mae hyn yn newyddion da i ffermwyr ar draws Cymru,” meddai.

“Rydw i’n ymroddedig i weithio law yn llaw â’r diwydiant er mwyn sicrhau bod Glastir yn gweithio i’r ffermwyr, ac mae’r newidiadau yr ydw i wedi eu cyhoeddi heddiw yn brawf o hynny.”