Mae disgwyl i wyntoedd cryfion achosi problemau yng Nghymru dros y penwythnos.

Bydd rhybudd tywydd melyn mewn grym ddydd Sadwrn (Ionawr 26), ac yn ôl y Swyddfa Tywydd, bydd gwyntoedd 65 milltir yr awr mewn rhai mannau.

Mae’n debygol y bydd modurwyr a theithwyr mewn awyrennau, cychod a threnau yn cael eu heffeithio.

Ac mae’n bosib y bydd rhai yn colli eu cyflenwad pŵer am gyfnodau byr.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’n debygol bydd cymunedau arfordirol yn cael eu heffeithio gan donnau uwch na’r arfer.

Bydd y rhybudd tywydd melyn mewn grym rhwng 9.00 o’r gloch ddydd Sadwrn (Ionawr 26) a chanol dydd Iau (Ionawr 27).