Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod siarc prinnaf y byd yn byw yn nyfroedd Cymru.

Roedd y maelgi (angel shark) yn gyffredin iawn ar un adeg, ond erbyn hyn mae ei niferoedd yn isel, ac maen nhw i’w gweld yn bennaf o amgylch Ynysoedd y Canarïa.

Er hynny, yn ddiweddar mae’n debyg bod pysgotwyr wedi gweld y rhywogaeth oddi ar arfordir Cymru – dyw’r unig leoliad ddim yn glir.

Bydd ymchwilwyr yn plymio i ddyfroedd Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn i chwilio am y creaduriaid, ac mae ymgyrch wedi dechrau i gasglu lluniau ohonyn nhw.

Mae gwyddonwyr yn gobeithio darganfod os ydy’r siarcod yn teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru ac Ynysoedd y Canarïa, neu os oes grwpiau unigryw yn y ddwy ardal.